Brynmor LeslieJAMES(Bryn Cross) Yn frawychus o sydyn ar ddydd Sadwrn Ionawr 10 2015 hunodd Bryn, Groesffordd, Henllan, Llandysul; priod tyner Bronwen a thad arbennig Llinos, Eirwen a'i phriod Keith; tadcu cefnogol Gary, Helen a Carwyn, hen-dadcu hoffus Elise, hefyd roedd yn annwyl iawn gan ei ddiweddar frodyr a chwiorydd, ynghyd a'u teuluoedd a llu o ffrindiau. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus a chladdedigaeth yng Nghapel Bryngwenith, Henllan, ddydd Sadwrn Ionawr 17 2015 am 11 o'r gloch. Dim blodau ond derbynnir cyfraniadau er cof os dymunir tuag at Meddygfa Llynyfran, Llandysul. Ymholiadau pellach a chyfraniadau trwy law Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-p?l, Rhydlewis, Llandysul, SA44 5QH. Ff?n 01239 851005.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Brynmor